Corff sy'n ceisio rheoli neu hyrwyddo iaith yw corff rheoli iaith. Ceir sawl enw amgen ar gyrff sy'n rheoli iaith, megis asiantaeth iaith a bwrdd iaith. Mae eu cyfansoddiad, eu cyfrifoldebau a'u pwerau yn amrywio'n fawr o wlad i wlad. Mae rhai ohonynt, fel yr Académie française sy'n ceisio safoni'r defnydd o'r Ffrangeg yn Ffrainc, yn sefydliadau academaidd gyda hanes hir iddynt, tra bod eraill yn gyrff statudol neu lywodraethol dan adain y llywodraeth, tebyg i Fwrdd yr Iaith Gymraeg (Cymraeg) yng Nghymru neu'r Academi Bangla (Bengaleg) ym Mangladesh. Gan amlaf maent yn gyrff a sefydlwyd er mwyn hyrwyddo ac amddiffyn ieithoedd llai, ond dim ym mhob achos.